Close
Hafan
Y Rolau
Swyddi gwag
Trosolwg o'r Broses
Cwestiynau cyffredin
English

Y Rolau

Mae gennym rolau cyffrous, heriol a gwerth chweil ar gael ar draws DWP.

Rydym yn chwilio am bobl sydd â photensial arweinyddiaeth cryf, y gallu i ddylanwadu ar ystod eang o randdeiliaid ac ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau eithriadol i'r cyhoedd.

Mae rolau Uwch Swyddog Gweithredol y DWP yn eang ac amrywiol.

Byddwch yn arwain timau, yn rheoli prosiectau ac yn dod o hyd i atebion anhygoel i faterion heriol sy'n pontio'r bwlch rhwng strategaeth uwch a chyflawni rheng flaen.

Er mwyn bod yn llwyddiannus, bydd angen i chi ddangos sgiliau cyfathrebu cryf gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau gyda grwpiau amrywiol eang o bobl, a meddu ar y gallu i ddeall ac ymchwilio i wybodaeth gymhleth, gan ddod o hyd i atebion i ddylanwadu ar ganlyniadau. Byddwch hefyd yn hyderus yn rheoli sefyllfaoedd anodd a goruchwylio datblygiad staff iau.