Dylech gwblhau bob rhan o'r ffurflen gais.
I ddechrau, gofynnir i chi os oes gennych yr hawl i weithio yn y DU a bodloni gofynion cenedligrwydd
y Gwasanaeth Sifil a’ch manylion personol. (Os byddwch yn llwyddiannus ar ôl cyfweliad gofynnir i
chi ddarparu dogfennaeth i brofi hyn. Bydd hyn yn cynnwys prawf o bwy ydych, gan gynnwys ID gyda
llun neu basbort biometrig cyfatebol/cod rhannu a phrawf o gyfeiriad).
Mae'r swyddi hyn yn agored yn fras i'r grwpiau canlynol:
- Gwladolion y DU
- Gwladolion Gweriniaeth Iwerddon
- Gwladolion gwledydd y Gymanwlad sydd â'r hawl i weithio yn y DU
-
Gwladolion yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein ac aelodau o deulu'r cenhedloedd
hynny sydd â statws sefydlog neu ragsefydlog o dan Gynllun Setliad yr Undeb Ewropeaidd (EUSS)
https://www.gov.uk/settled-status-eu-citizens-families?_ga=2.26790964.884827562.1671461149-344924071.1670604899)
-
Gwladolion yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein ac aelodau o deulu’r cenhedloedd
hynny sydd wedi gwneud cais dilys am statws preswylydd sefydlog neu ragsefydlog yn unol â gofynion
Cynllun Setliad yr Undeb Ewropeaidd (EUSS)
https://www.gov.uk/settled-status-eu-citizens-families?_ga=2.26790964.884827562.1671461149-344924071.1670604899.
Pan fo’r cais EUSS hwnnw wedi’i dderbyn fel un dilys, fel y dangosir gan dystysgrif cais, gallai
methiant person o’r fath i gael statws EUSS arwain at wrthod y cais am swydd neu at derfynu’r
contract.
-
Gwladolion â chaniatâd cyfyngedig i aros neu ganiatâd amhenodol i aros a oedd yn gymwys i wneud
cais am EUSS ar neu cyn 31 Rhagfyr 2020
-
Gwladolion Twrcaidd, neu aelodau penodol o deulu gwladolion Twrcaidd, sydd wedi cronni'r hawl i
weithio yn y Gwasanaeth Sifil
I gael rhagor o wybodaeth am ofynion cenedligrwydd swyddi a’r hawl i weithio yn y DU, gweler y
Gwasanaeth Sifil
Rheolau cenedligrwydd (yn agor mewn ffenestr newydd)
https://www.gov.uk/government/publications/nationality-rules
a rheolau
Fisâu a Mewnfudo y DU (yn agor mewn ffenestr newydd)
https://www.gov.uk/government/organisations/uk-visas-and-immigration