Close
Hafan
Y Rolau
Swyddi gwag
Trosolwg o'r Broses
Cwestiynau cyffredin
English

Y Rolau

Mae gennym rolau cyffrous, heriol a gwerth chweil ar gael ar draws y DWP.

Rydym yn chwilio am bobl sydd â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, gallu gweinyddu trylwyr ac ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau eithriadol i'r cyhoedd.

Mae rolau Swyddog Gweinyddol y DWP yn eang ac amrywiol.

Byddwch yn gweithio gyda chwsmeriaid a chydweithwyr trwy gyfuniad o gysylltiadau digidol, ffôn ac wyneb yn wyneb bob dydd, sy'n canolbwyntio'n bennaf ar ddarparu gweithredol a chymorth gweinyddol. Er mwyn bod yn llwyddiannus, bydd angen i chi ddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol ar draws ystod eang o gwsmeriaid amrywiol, ynghyd â'r gallu i ddeall gwybodaeth gymhleth a rhoi esboniadau i'r cwsmer. Bydd gennych hefyd y gallu i reoli sefyllfaoedd anodd.