FAQ am y cam asesu
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein proses recriwtio nad ydynt wedi'u hateb eto, edrychwch drwy'r cwestiynau a'r atebion isod i gael rhagor o wybodaeth.
Gweler yr adran Cysylltu â Ni isod i gael rhagor o fanylion am sut y gallwch gysylltu â ni os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch.
Datganiad Personol
- A fyddaf yn derbyn fy sgoriau sifft? Byddwch, bydd eich sgoriau yn cael eu hanfon atoch drwy e-bost.
- Rwyf wedi cael fy ngwrthod yn y sifft, a allaf gael adborth? Ni ddarperir adborth yn y cam sifft, ond byddwch yn derbyn eich sgôr.
- A allaf ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial (GenAI) ar unrhyw gam yn ystod y broses ymgeisio? Rydym yn cydnabod y gall AI fod yn ddefnyddiol wrth wneud cais am y rôl hon, ond mae'n bwysig ei ddefnyddio yn y ffordd gywir. Darllenwch y dudalen ar Deallusrwydd artiffisial a recriwtio | Gyrfaoedd y Gwasanaeth Sifil https://www.civil-service-careers.gov.uk/artificial-intelligence-and-recruitment/ i ddeall sut y gallwch wneud y defnydd gorau o GenAI wrth sicrhau bod eich cais yn parhau i fod yn ddilys ac yn effeithiol.
Datganiad Addasrwydd
- A fyddaf yn derbyn fy sgoriau sifft? Byddwch, bydd eich sgoriau yn cael eu hanfon atoch drwy e-bost.
- Rwyf wedi cael fy ngwrthod yn y sifft, a allaf gael adborth? Ni ddarperir adborth yn y cam sifft, ond byddwch yn derbyn eich sgôr.
- A allaf ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial (GenAI) ar unrhyw gam yn ystod y broses ymgeisio? Rydym yn cydnabod y gall AI fod yn ddefnyddiol wrth wneud cais am y rôl hon, ond mae'n bwysig ei ddefnyddio yn y ffordd gywir. Darllenwch y dudalen ar Deallusrwydd artiffisial a recriwtio | Gyrfaoedd y Gwasanaeth Sifil https://www.civil-service-careers.gov.uk/artificial-intelligence-and-recruitment/ i ddeall sut y gallwch wneud y defnydd gorau o GenAI wrth sicrhau bod eich cais yn parhau i fod yn ddilys ac yn effeithiol.
Prawf Barn Sefyllfaol
-
Sut mae fy sgôr SJT yn cael ei gyfrifo?
Pennir y sgôr o'ch atebion i ddilyniant o gwestiynau rhagolwg swydd realistig. Mae'r
cwestiynau'n rhai amlddewis gydag opsiynau'n amrywio o ateb gwael i ateb rhagorol a'r sgôr yw
cyfanswm eich ymatebion.
Mae sgorio SJT yn broses gwbl awtomataidd yn seiliedig ar swm eich ymatebion unigol.
Gall y sgôr meincnod amrywio o swydd wag i swydd wag gan ei bod yn dibynnu ar sawl ffactor. Mae'r rhain yn cynnwys nifer yr ymgeiswyr a wnaeth gais am yr ymgyrch, yr ystod o sgoriau a gyflawnwyd a nifer y swyddi gwag sydd ar gael o fewn yr ymgyrch.
Asesiad o Addasrwydd ar gyfer y Rôl
- A fyddaf yn derbyn sgoriau fy asesiad? Byddwch, bydd eich sgoriau yn cael eu hanfon atoch drwy e-bost.
-
Sut mae fy sgôr Asesiad Addasrwydd Rôl yn cael ei gyfrifo?
Ar gyfer pob rôl, cyfunir eich canlyniadau o'r Asesiad sy'n Seiliedig ar Werthoedd a'r Asesiad
sy'n Seiliedig ar Allu i gynhyrchu sgôr derfynol. Mae'r broses sgorio yn gwbl awtomatig ac yn
seiliedig ar eich ymatebion unigol. Mae sgôr yr Asesiad yn seiliedig ar Allu yn cael ei bwyso
fel bod y ddau asesiad yn cyfrannu'n gyfartal at y sgôr gyfunol, sydd â uchafswm o 480.
Rhaid i chi gyflawni'r isafswm sgôr ofynnol ar bob asesiad cyn y gellir ystyried eich sgôr gyfunol. Mae hyn yn golygu na all sgôr uchel ar un asesiad wneud yn iawn am sgôr islaw'r gofyniad lleiaf ar y llall. Yna caiff ymgeiswyr sy'n bodloni'r ddau ofyniad gofynnol eu graddio gan ddefnyddio eu sgôr gyfunol.
Gall y sgôr gyfunol sy'n ofynnol i symud ymlaen i'r sifft amrywio o swydd wag i swydd wag yn dibynnu ar sawl ffactor megis nifer yr ymgeiswyr a ymgeisiodd yn yr ymgyrch, yr ystod o sgoriau a gyflawnwyd a nifer y swyddi gwag sydd ar gael yn yr ymgyrch. Bydd pob ymgeisydd sy'n gwneud cais o fewn yr un ymgyrch yn cael eu hasesu'n gyson yn erbyn yr un sgôr. Nid yw cwrdd â'r isafswm sgoriau yn gwarantu dilyniant yn awtomatig, gan mai dim ond yr ymgeiswyr cymwys sydd â'r sgôr uchaf y gellir eu gwahodd i'r cam nesaf.
- A fyddaf yn derbyn adborth ar fy Asesiad? Byddwch yn cael eich sgorau asesu unigol yn ogystal â sgôr gyfunol sy'n adlewyrchu eich perfformiad cyffredinol ar draws y ddwy elfen asesu.
- A allaf ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial (GenAI) ar unrhyw gam yn ystod y broses ymgeisio? Rydym yn cydnabod y gall AI fod yn ddefnyddiol wrth wneud cais am y rôl hon, ond mae'n bwysig ei ddefnyddio yn y ffordd gywir. Darllenwch y dudalen ar Deallusrwydd artiffisial a recriwtio | Gyrfaoedd y Gwasanaeth Sifil https://www.civil-service-careers.gov.uk/artificial-intelligence-and-recruitment/ i ddeall sut y gallwch wneud y defnydd gorau o GenAI wrth sicrhau bod eich cais yn parhau i fod yn ddilys ac yn effeithiol.
Cyfweliadau
- Ymgeisiais dan y Cynllun Hyderus o ran Anabledd (DCS) ond ni chefais wahoddiad i gyfweliad, a allwch ddweud pam wrthyf? Bydd ymgeiswyr anabl sydd wedi gwneud cais o dan y Cynllun Hyderus o ran Anabledd ond yn symud ymlaen i'r cyfweliad os ydynt yn pasio'r prawf ar-lein ac wedi bodloni'r gofynion sylfaenol yn y cam sifftio. Yn yr achos lle mae’r swydd yn mynd yn syth i gyfweliad heb sifft, byddai dal angen i ymgeiswyr fodloni gofynion sylfaenol.
- A allaf gyfeirio at nodiadau yn ystod fy nghyfweliad? Gallwch edrych ar unrhyw nodiadau sydd gennych yn ystod amser y cyfweliad ac wrth gofnodi eich atebion ond ni ddylech fod yn darllen o sgript yn unig.
- A allaf gael rhywun gyda mi yn ystod y cyfweliad? Gall ymgeiswyr dim ond cael rhywun gyda nhw fel rhan o Addasiad Rhesymol y cytunwyd arno. Os byddwch yn dweud bod angen cymorth ychwanegol arnoch, byddwn yn cysylltu â chi i ddarganfod y rheswm dros hyn a chytuno ar yr hyn sy'n briodol. Os cadarnheir bod angen rhywun arnoch i'ch cynorthwyo fel dehonglydd, byddai hyn yn cael ei drefnu gan yr Adran gan ein darparwr dan gontract.
- A allaf ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial (GenAI) ar unrhyw adeg yn ystod y broses ymgeisio? Rydym yn cydnabod y gallai AI fod o gymorth wrth ymgeisio am y rôl hon, ond mae’n bwysig ei defnyddio yn y ffordd gywir. Darllenwch y dudalen ar Deallusrwydd artiffisial a recriwtio | Gyrfaoedd y Gwasanaeth Sifil https://www.civil-service-careers.gov.uk/artificial-intelligence-and-recruitment/ i ddeall sut y gallwch chi wneud y defnydd gorau o GenAI wrth sicrhau bod eich cais yn parhau i fod yn ddilys ac yn effeithiol.
-
A oes slot amser penodol ar gyfer fy nghyfweliad?
Ar gyfer cyfweliadau PRVI, bydd dyddiad cau i chi gwblhau'r cyfweliad a byddwch yn cael eich
rhybuddio am y dyddiad cau hwn yn y gwahoddiad e-bost. Gallwch gymryd eich cyfweliad ar adeg
sy'n addas i chi o'r adeg y byddwch yn derbyn yr e-bost gyda'r ddolen hyd at y dyddiad cau.
Ar gyfer Cyfweliadau Fideo Byw a Chyfweliadau Wyneb yn Wyneb, byddwch yn gallu trefnu un o'r slotiau cyfweliad sydd ar gael yn eich Canolfan Ymgeisio a byddwch yn derbyn nodyn atgoffa o hyn. Byddwch yn derbyn yr e-bost gyda'r ddolen a fydd yn caniatáu i chi ymuno, ynghyd â gwybodaeth am sut i gael mynediad i'r cyfweliad os yw’n Gyfweliad Fideo Byw neu fanylion a ble i fynychu ar gyfer Cyfweliadau Wyneb yn Wyneb.
- Beth ddylwn i ei wneud os bydd gennyf broblemau technegol yn ystod y cyfweliad wedi’i recordio ymlaen llaw? Mae help ar gael 24/7 drwy'r botwm Help ar y system (Tazio). Os na fydd hyn yn datrys eich problem a’ch bod angen rhagor o help a chymorth, cysylltwch â Hwb Cwsmeriaid SSCL drwy:
- A fydd y cyfweliad a recordiwyd ymlaen llaw yn gweithio gyda thechnoleg gynorthwyol? Bydd, mae'r cyfweliad wedi'i brofi ar gyfer Hygyrchedd a gweithiodd hyn yn dda. Os ydych yn defnyddio Technoleg Gynorthwyol ac yn cael anawsterau yn ystod y cyfweliad, cysylltwch â Hyb Cwsmeriaid SSCL drwy:
- Beth ddylwn i ei wneud os wyf yn cael problemau technegol yn ystod y Cyfweliad Fideo Byw? Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn defnyddio platfform, cysylltiad Wifi ac offer addas. Gallwch geisio dod allan ac ail ymuno â’r cyfarfod a gall y panel drefnu i'ch cyfweliad gael ei aildrefnu. Dim ond unwaith y gellir aildrefnu cyfweliad a bydd y cyfweliad wedi'i aildrefnu OND yn cwmpasu elfennau a fethwyd yn y cyfweliad.
- Rwy’n gweithio yn y DWP ar hyn o bryd, a allaf gymryd fy nghyfweliad wedi’i recordio ymlaen llaw ar offer DWP? Gallwch, fodd bynnag, bydd angen i chi sicrhau bod gennych fersiwn gyfredol o'r porwr rhyngrwyd Microsoft Edge i wneud hyn. Os nad oes gennych fersiwn gyfredol ar eich offer DWP bydd angen i chi gynnal y cyfweliad ar ddyfais arall.
- Oes angen camera a meicroffon arnaf? Oes, ar gyfer cyfweliadau PRVI a Fideo Byw. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y panel yn gallu eich clywed a'ch gweld drwy'r amser, fel arall ni fydd cyfweliad PRVI yn cael ei asesu ac ni all Cyfweliad Fideo Byw barhau.
- Oes angen i mi ddarparu fy ID? Oes, ar gyfer Fideo Byw byddwn yn gofyn am ddogfen ID gyda llun addas i gael ei hanfon cyn eich cyfweliad. Bydd y panel yn defnyddio hwn i wirio eu bod yn siarad â'r person cywir. Byddant hefyd yn gofyn i chi ddal yr un ID i'r camera ar ddechrau'r cyfweliad. Ar gyfer cyfweliadau wyneb yn wyneb, bydd gofyn i chi fynd â'ch ID i'r cyfweliad a bydd y panel yn gofyn am weld hyn cyn y gall y cyfweliad ddechrau.
- Beth yw ID addas? Bydd angen i chi ddarparu ID gyda llun sy'n profi eich hunaniaeth fel pasbort neu drwydded yrru.
- Rwyf wedi cael fy ngwrthod mewn cyfweliad, a allaf gael adborth? Cewch sgôr eich cyfweliad ond ni roddir adborth yn awtomatig. Os hoffech ofyn am adborth yna cysylltwch â Hwb Cwsmer SSCL:
Cysylltu â Ni
Os oes gennych gwestiynau pellach am y rôl, cysylltwch â Hwb Cwsmeriaid SSCL drwy:
I ymestyn, cysylltwch â Hwb Cwsmeriaid SSCL drwy: