Cam Asesu
Dyma beth sydd angen i chi ei wybod am y broses ymgeisio:
Byddwn yn defnyddio cymysgedd o wahanol elfennau asesu yn dibynnu ar y rôl. Gall hyn gynnwys Datganiad Personol, Datganiad o Addasrwydd, Profion Barn Sefyllfaol, Prawf Asesu Addasrwydd ar gyfer y Rôl a Chyfweliadau. Gall cyfweliadau fod trwy Gyfweliad Fideo wedi'i Recordio ymlaen llaw (PRVI), Galwad Fideo Fyw (gan ddefnyddio Microsoft Teams) neu gyfweliad Wyneb yn Wyneb Byw mewn lleoliad penodol. Cyfeiriwch at yr hysbyseb i fod yn glir ar yr asesiad penodol sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer y rôl rydych yn ymgeisio amdani. Gellir dod o hyd i fanylion ychwanegol am bob cam yma.
Datganiad Personol
Mae'r DWP yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant Os byddwn angen datganiad personol, byddwn yn gofyn i chi ddarparu hwn gan ddefnyddio 500 gair sy'n dangos eich gallu yn erbyn un o'r ymddygiadau ar y lefel sy'n addas i'r rôl rydych yn gwneud cais amdani.
Unwaith y bydd cais wedi'i gyflwyno, ni ellir ei ddiwygio. Dim ond unwaith y dylech wneud cais am unrhyw ymgyrch / hysbyseb benodol, bydd unrhyw geisiadau dyblyg yn cael eu tynnu'n ôl.
Anonymeiddio
Dylech ddileu unrhyw fanylion personol fel enw a manylion cyswllt neu bydd eich cais yn cael ei dynnu'n ôl.
Llên-ladrad
Rhaid i'r dystiolaeth rydych yn ei darparu ymwneud â'ch profiadau eich hun. Os canfyddir tystiolaeth o lên-ladrad, neu rannu cwestiynau, gwybodaeth neu atebion drwy gydol unrhyw ran o'r broses ddethol, bydd eich cais yn cael ei dynnu'n ôl. Gall enghreifftiau o lên-ladrad gynnwys:
- Cyflwyno gwaith, syniadau a phrofiad eraill fel eich un eich hun.
- Copïo cynnwys neu atebion o ffynhonnell ar-lein neu gyhoeddedig nad yw'n eich hun.
Mae'r un peth yn berthnasol i bob cam o'ch cais.
Rydym yn cydnabod y gall Deallusrwydd Artiffisial (AI) fod yn ddefnyddiol wrth wneud cais am y rôl hon, ond mae'n bwysig ei ddefnyddio yn y ffordd gywir. Darllenwch y dudalen ar Ddeallusrwydd Artiffisial a recriwtio | Gyrfaoedd y Gwasanaeth Sifil i ddeall sut y gallwch wneud y defnydd gorau o GenAI tra'n sicrhau bod eich cais yn parhau i fod yn ddilys ac yn effeithiol.
Datganiad Addasrwydd
Mae'r DWP yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant Proffiliau Llwyddiant Os bydd angen Datganiad Addasrwydd arnom, byddwn yn gofyn i chi ei ddarparu gan ddefnyddio rhwng 500 a 1250 o eiriau; mae hyn yn rhoi cyfle i chi amlinellu pam rydych chi'n ddelfrydol ar gyfer y rôl yn erbyn y meini prawf allweddol a nodir yn yr hysbyseb, ar y lefel briodol ar gyfer y rôl rydych chi'n gwneud cais amdani.
Unwaith y bydd cais wedi'i gyflwyno, ni ellir ei ddiwygio. Dylech wneud cais unwaith yn unig ar gyfer unrhyw ymgyrch neu hysbyseb benodol; bydd unrhyw geisiadau dyblyg yn cael eu tynnu'n ôl.
Anonymeiddio
Dylech dynnu unrhyw fanylion personol, fel eich enw a manylion cyswllt, fel arall bydd eich cais yn cael ei dynnu'n ôl.
Llen-ladrad
Rhaid i'r dystiolaeth a ddarperir gennych ymwneud â'ch profiadau eich hun. Os canfyddir tystiolaeth o ladrad llenyddol, neu o rannu cwestiynau, gwybodaeth neu atebion yn ystod unrhyw ran o'r broses ddethol, caiff eich cais ei dynnu'n ôl.Gall enghreifftiau o lên-ladrad gynnwys:
- Cyflwyno gwaith, syniadau a phrofiad eraill fel eich un eich hun
- Copïo cynnwys neu atebion o ffynhonnell ar-lein neu gyhoeddedig nad yw'n eich hun
Mae'r un peth yn berthnasol i bob cam o'ch cais.
Rydym yn cydnabod y gall Deallusrwydd Artiffisial (AI) fod yn ddefnyddiol wrth wneud cais am y rôl hon, ond mae'n bwysig ei ddefnyddio yn y ffordd gywir. Darllenwch y dudalen ar Ddeallusrwydd Artiffisial a recriwtio | Gyrfaoedd y Gwasanaeth Sifil i ddeall sut y gallwch wneud y defnydd gorau o GenAI tra'n sicrhau bod eich cais yn parhau i fod yn ddilys ac yn effeithiol.
Prawf Barn Sefyllfaol
Ar ôl cwblhau a chyflwyno'ch cais yn llwyddiannus, efallai y cewch eich gwahodd i sefyll Prawf Barn Sefyllfaol. Mae'r Prawf Barn Sefyllfaol yn ymarfer wedi'i amseru sydd wedi'i gynllunio i weld sut byddech chi'n ymateb yn naturiol mewn sefyllfaoedd a sut byddech chi'n cyfathrebu ag eraill. Mae'n cynnwys senarios amlddewis. Nid oes angen unrhyw wybodaeth na phrofiad sy'n benodol i'r Adran Gwaith a Phensiynau arnoch i allu cwblhau'r ymarfer, ac nid oes angen unrhyw wybodaeth na phrofiad penodol arnoch yn ymwneud â'r senario a gyflwynir.
Dylech ganiatáu 30-45 munud, dylech allu ei gwblhau mewn un eisteddiad a rhaid iddo fod yn eich gwaith chi. Gellir gofyn am addasiadau rhesymol os oes gan ymgeisydd ofynion penodol oherwydd anabledd. Unwaith y byddwch yn cyflwyno eich ateb ar ddiwedd y prawf ni fyddwch yn gallu newid na diweddaru eich ymateb. Os na fyddwch yn cwblhau ac yn cyflwyno'r prawf cyn y dyddiad cau, efallai na fydd eich cais yn symud ymlaen.
Bydd un prawf fesul swydd wag ac os byddwch yn gwneud cais am swyddi gwag lluosog yna bydd angen i chi sefyll y prawf ar-lein ar gyfer pob un. Cyn i chi ddechrau, gwnewch yn siŵr eich bod mewn amgylchedd addas gyda chysylltiad rhyngrwyd sefydlog ac nad oes unrhyw broblemau gyda'ch dyfais. Os bydd eich prawf yn cael ei amharu arno am unrhyw reswm, ni fyddwch yn gallu ei ail-gymryd.
Rhaid i chi basio'r Prawf Barn Sefyllfaol i symud ymlaen i'ch tystiolaeth ysgrifenedig gael ei sifftio, os ydym wedi gofyn am ddatganiad personol. Byddwch yn derbyn hysbysiad i'ch hysbysu eich bod wedi symud ymlaen i'r cam nesaf.
Os nad ydym wedi gofyn am ddatganiad personol, bydd ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y marc pasio y cytunwyd arno yn cael eu gwahodd i gyfweliad.
Mae sgorio SJT yn broses gwbl awtomataidd yn seiliedig ar swm eich ymatebion unigol.
Gall y sgôr meincnod amrywio o swydd wag i swydd wag gan ei bod yn dibynnu ar sawl ffactor. Mae'r rhain yn cynnwys nifer yr ymgeiswyr a wnaeth gais am yr ymgyrch, yr ystod o sgoriau a gyflawnwyd a nifer y swyddi gwag sydd ar gael o fewn yr ymgyrch.
Os oes angen addasiad rhesymol arnoch neu rydych yn cael unrhyw drafferthion technegol gallwch gysylltu â Hwb Cwsmeriaid SSCL:
- Sgwrs Byw
- dwp-customer_hub@resourcing.soprasteria.co.uk
- 0345 241 5365
Asesiad Addasrwydd Rôl
Ar ôl cwblhau a chyflwyno'ch cais yn llwyddiannus, efallai y cewch eich gwahodd i gymryd Asesiad Addasrwydd Rôl.
Mae hyn yn cynnwys dwy elfen: Asesiad yn seiliedig ar werthoedd ac Asesiad yn seiliedig ar allu.
Byddwch yn gyntaf yn cael eich cymryd i'r Asesiad yn Seiliedig ar Werth sy'n profi eich ymateb i nifer o gwestiynau sy'n canolbwyntio ar Werthoedd a Safonau'r DWP ac nid yw'n cael ei amseru. Rhaid i chi ganiatáu tua 15-20 munud ar gyfer yr asesiad hwn.
Yna, byddwch yn symud ymlaen i'r Asesiad yn Seiliedig ar Allu, sy'n profi eich ymateb i nifer o sefyllfaoedd realistig y gallech ddod ar eu traws yn y rôl rydych yn gwneud cais amdani. Mae'r prawf hwn wedi'i amseru a chewch rhwng 20-28 munud i'w gwblhau, yn dibynnu ar y prawf rôl rydych yn ei gymryd. Gall yr Asesiad sy'n Seiliedig ar Allu fod yn brawf barn sefyllfaol, yn asesiad sy'n seiliedig ar senario neu'n chwarae rôl efelychiedig, yn dibynnu ar y rôl rydych chi'n gwneud cais amdani. Bydd manylion penodol yr asesiad sy'n berthnasol i'r rôl swydd i'w gweld yn yr hysbyseb.
Mae'r ddau asesiad yn rhoi opsiynau ymateb i bob cwestiwn rydych yn ei raddio ar gyfer mwyaf priodol / lleiaf priodol ac mae rhai ymatebion cwestiwn yn gofyn am gael eu graddio ar raddfa rhwng anghytuno’n gryf i gytuno'n gryf.
Nid ydych angen unrhyw wybodaeth neu brofiad sy'n benodol i'r DWP i allu cwblhau'r asesiadau, ac nid ydych angen unrhyw wybodaeth neu brofiad penodol yn ymwneud â'r senario a gyflwynir.
Rhaid cwblhau'r prawf o fewn yr amserlen a roddir, sef 3 diwrnod o'r dyddiad y cewch eich gwahodd i gymryd y prawf, hyd at uchafswm o 48 awr ar ôl i'r ymgyrch gau. Os byddwch yn colli dyddiad cau cwblhau prawf, byddwch yn cael eich tynnu'n ôl o'r ymgyrch.
Dylech ganiatáu tua 40-50 munud yn dibynnu ar y rôl rydych yn gwneud cais amdani. Dylech allu cwblhau mewn un eisteddiad a rhaid i hyn fod eich gwaith eich hun. Gellir gofyn am addasiadau rhesymol os oes gan ymgeisydd ofynion penodol oherwydd anabledd, cyfeiriwch at yr adran Addasiadau Rhesymol ar y wefan hon. I ddeall yn fanylach beth allai fod ar gael.
Ar ôl i chi gyflwyno'ch ateb ar ddiwedd y prawf, ni fyddwch yn gallu newid neu ddiweddaru'ch ateb. Os na fyddwch yn cwblhau a chyflwyno'r prawf cyn y dyddiad cau, efallai na fydd eich cais yn mynd yn ei flaen.
Bydd un cam Asesu Addasrwydd Rôl ym mhob swydd wag ac os byddwch yn gwneud cais am sawl swydd wag yna bydd angen i chi gymryd yr Asesiad Addasrwydd Rôl ar gyfer pob un. Cyn i chi ddechrau, gwnewch yn siŵr eich bod mewn amgylchedd addas gyda chysylltiad rhyngrwyd sefydlog ac nad oes unrhyw broblemau gyda'ch dyfais. Os bydd eich prawf yn cael ei amharu am unrhyw reswm, ni fyddwch yn gallu ei ail-gymryd.
Rhaid i chi basio'r cam Asesu Addasrwydd Rôl i symud ymlaen i'ch tystiolaeth ysgrifenedig gael ei sifftio lle rydym wedi gofyn am hyn fel rhan o'r broses.
Os nad ydym wedi gofyn am dystiolaeth ysgrifenedig fel rhan o'r broses, os byddwch yn cyrraedd y marc pasio y cytunwyd arno, fe'ch gwahoddir i gam nesaf y broses.
Ar gyfer pob rôl, cyfunir eich canlyniadau o'r Asesiad sy'n Seiliedig ar Werthoedd a'r Asesiad sy'n Seiliedig ar Allu i gynhyrchu sgôr derfynol. Mae'r broses sgorio yn gwbl awtomatig ac yn seiliedig ar eich ymatebion unigol. Mae sgôr yr Asesiad Addasrwydd ar gyfer y Rôl yn cael ei phwyso fel bod y ddau asesiad yn cyfrannu'n gyfartal at y sgôr gyfunol, sydd â uchafswm o 480
Er mwyn symud ymlaen i gam nesaf y broses, rhaid i ymgeiswyr gyflawni'r sgôr leiaf ofynnol ym mhob asesiad. Mae hyn yn golygu na all sgôr uchel mewn un asesiad wneud iawn am sgôr sy'n is na'r gofyniad lleiaf yn y llall. Rhaid i'r sgorau hefyd fodloni trothwy llwyddo'r ymgyrch, gan ystyried yr effaith ar grwpiau gwarchodedig a nifer yr ymgeiswyr y mae angen eu symud ymlaen i gam nesaf y broses.
Gall ymgeiswyr eraill basio gyda sgôr gyfunol is os ydynt wedi bodloni'r gofyniad lleiaf ar gyfer y ddwy elfen.
Gall y sgôr gyfunol sy'n ofynnol i symud ymlaen i'r sifft amrywio o swydd wag i swydd wag yn dibynnu ar sawl ffactor megis nifer yr ymgeiswyr a ymgeisiodd yn yr ymgyrch, yr ystod o sgoriau a gyflawnwyd a nifer y swyddi gwag sydd ar gael yn yr ymgyrch. Bydd pob ymgeisydd sy'n gwneud cais o fewn yr un ymgyrch yn cael eu hasesu'n gyson yn erbyn yr un sgôr. Nid yw cwrdd â'r isafswm sgoriau yn gwarantu dilyniant yn awtomatig, gan mai dim ond yr ymgeiswyr cymwys sydd â'r sgôr uchaf y gellir eu gwahodd i'r cam nesaf.
Ar ôl dyddiad cau yr asesiad, byddwn yn edrych ar yr holl sgoriau ymgeisydd sydd dros yr isafswm i benderfynu beth fydd marc pasio'r swydd. Nid yw bodloni gofynion isafswm y prawf ar gyfer lefel swydd yn gwarantu gwahoddiad i barhau yn y broses ddethol. Byddwn yn ystyried yr effaith ar grwpiau gwarchodedig a nifer yr ymgeiswyr sydd eu hangen ar gyfer y cam nesaf. Dywedir wrthych os ydych wedi pasio neu fethu a rhoddir eich sgôr i chi.
Os oes angen addasiad rhesymol arnoch neu rydych yn cael unrhyw drafferthion technegol gallwch gysylltu â Hwb Cwsmeriaid SSCL:
- Sgwrs Byw
- dwp-customer_hub@resourcing.soprasteria.co.uk
- 0345 241 5365
Sifft Datganiad
Os byddwch yn pasio'r Prawf Barn Sefyllfaol neu'r Asesiad Addasrwydd Rôl (pa un bynnag sy'n berthnasol) ac rydym wedi gofyn am Ddatganiad Personol neu Ddatganiad o Addasrwydd, caiff hwn nawr ei adolygu a’i sifftio. Bydd canlyniadau'r sifft yn cael eu rhyddhau unwaith y bydd yr holl geisiadau wedi'u hadolygu. Byddwch yn derbyn hysbysiad i roi gwybod a ydych wedi bod yn llwyddiannus ac wedi symud ymlaen i'r cam nesaf.
Noder, ni ddarperir adborth yn ystod y cam sifftio ond byddwch yn derbyn eich sgôr sifftio.
Yn dibynnu ar nifer y ceisiadau, efallai y byddwn yn symud yr holl ymgeiswyr sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y prawf ar-lein ymlaen i gyfweliad heb asesu tystiolaeth ysgrifenedig y cais.
Os ydych wedi pasio'r camau dethol cychwynnol, dylech gael eich gwahodd i gyfweliad.
Y Cyfweliad
Rydym yn defnyddio ystod o Gyfweliadau yn dibynnu ar y gofynion asesu penodol ar gyfer y rôl rydych wedi gwneud cais amdani. Efallai y byddwch yn cymryd Cyfweliad Fideo wedi'i Recordio ymlaen llaw (PRVI), Galwad Fideo Byw (dros Microsoft Teams) neu Gyfweliad Wyneb yn Wyneb mewn lleoliad penodedig. Bydd yr elfennau asesu penodol yn glir ar yr hysbyseb.
Cyfweliad fideo wedi'i recordio ymlaen llaw (PRVI)
Os bydd eich cyfweliad yn cael ei gynnal trwy gyfweliad fideo wedi'i recordio ymlaen llaw bydd gennych 5 diwrnod o dderbyn y gwahoddiad e-bost sy'n cynnwys y ddolen mynediad ac unrhyw wybodaeth sydd ei hangen i gwblhau'r cyfweliad. Byddwch hefyd yn derbyn rhybudd yn eich Canolfan Ymgeisio a thrwy SMS os gwnaethoch alluogi'r opsiwn cyfathrebu hwn gyda ni. Byddwch yn gweld recordiad o rywun yn gofyn cwestiynau ac mae gennych amser penodol i ymateb. Gofynnir nifer o gwestiynau i chi o broffiliau llwyddiant y Gwasanaeth Sifil.
Bydd rhain yn gwestiynau ymddygiad neu gryfder neu gymysgedd o'r ddau ar y lefel briodol ar gyfer y rôl rydych wedi gwneud cais amdani. Bydd yr ymddygiadau penodol sy'n cael eu profi yn cael eu hamlygu yn yr hysbyseb ac er y byddwch yn cael eich cynghori os ydych yn mynd i gael cwestiynau cryfder hefyd, nid yw'r cryfderau a brofir yn cael eu hysbysu ymlaen llaw gan fod y rhain wedi'u cynllunio i brofi eich ymateb uniongyrchol.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio porwr gwe cyfredol fel Google Chrome neu Microsoft Edge neu gyfwerth. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio bod gennych gysylltiad rhyngrwyd sefydlog ac yn profi offer cyn i chi ddechrau i wneud yn siŵr bod ansawdd llun / sain yn addas. Bydd gennych amser i ddod yn gyfarwydd â'r platfform a chael cwestiwn ymarfer. Yn yr achos annhebygol y byddwch yn profi unrhyw broblemau technegol yn ystod eich Cyfweliad, rhowch wybod am y rhain yn brydlon, cyn i'r dyddiad cau ar gyfer cwblhau eich Cyfweliad Fideo Wedi'i Recordio Ymlaen llaw ddod i ben fel y gallwn gywiro cyn i'ch cais gael ei dynnu'n ôl. Defnyddiwch eich manylion cyswllt [ID y cais ac enw defnyddiwr] o fewn pob gohebiaeth. Ni fyddwch yn gallu ailgymryd unrhyw elfennau o'r PRVI sydd eisoes wedi'u cwblhau.
Gofynnir cwestiwn ymarfer i chi deimlo’n gyffyrddus ac yna cewch eich symud ymlaen at y cwestiynau cyfweliad a gaiff eu sgorio.
Ar gyfer pob cwestiwn ymddygiad, byddwch yn cael un munud o amser meddwl i ystyried eich ymateb a 3 munud i roi eich ateb.
Ar gyfer pob cwestiwn cryfder, gan fod hwn yn profi eich ymateb uniongyrchol, byddwch yn cael 2 funud 30 eiliad i roi eich ateb.
Mae'n hanfodol y gallwn eich gweld a'ch clywed yn glir neu ni fyddwn yn asesu eich cyfweliad gan y bydd hyn yn cadarnhau eich hunaniaeth.
Os ydych wedi cwblhau eich ymateb ac mae amser ar ôl, gallwch symud ymlaen i'r cwestiwn nesaf.
Cyfweliad Byw
Os bydd eich cyfweliad yn cael ei gynnal drwy gyfweliad byw naill ai drwy Alwad Fideo Byw ar Microsoft Teams neu wyneb yn wyneb, byddwch yn cael eich gwahodd i drefnu hwn yn eich Canolfan Olrhain Ymgeiswyr a bydd gennych ddewis o'r dyddiadau a'r amseroedd sydd ar gael.
Byddwch yn cael nodyn atgoffa o'ch slot cyfweliad wedi'i drefnu a naill ai dolen i gael mynediad i'r cyfweliad a manylion sut i gael mynediad i'r cyfweliad, neu os yw’n wyneb yn wyneb, manylion ble i fynychu. Os oes gennych gyfweliad Teams, gofynnir i chi hefyd anfon hunaniaeth ffotograffig o leiaf 24 awr cyn eich cyfweliad a bydd disgwyl i chi ddangos hyn i'r panel ar ddechrau'r cyfarfod. Mae hyn fel y gall y panel gadarnhau bod y person cywir yn mynychu'r cyfweliad. Os yw’r cyfweliad wyneb yn wyneb, gofynnir i chi ddangos eich ID i'r panel. Yn ystod y cyfweliad, i ddechrau, gofynnir i chi ddangos eich ID. Yna gofynnir cwestiwn cyffredinol i chi nad yw'n cael ei sgorio i'ch helpu i deimlo’n gyfforddus.
Gofynnir nifer o gwestiynau i chi o Gofynnir nifer o gwestiynau i chi o Broffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil. Bydd rhain yn gwestiynau ymddygiad neu gryfder neu gymysgedd o'r ddau ar y lefel briodol ar gyfer y rôl rydych wedi gwneud cais amdani. Bydd yr ymddygiadau penodol sy'n cael eu profi yn cael eu hamlygu yn yr hysbyseb ac er y byddwch yn cael eich cynghori os ydych yn mynd i gael cwestiynau cryfder hefyd, nid yw'r cryfderau a brofir yn cael eu hysbysu ymlaen llaw gan fod y rhain wedi'u cynllunio i brofi eich ymateb uniongyrchol.
Os yw'r cyfweliad drwy Teams, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio porwr gwe cyfredol fel Google Chrome neu Microsoft Edge neu gyfwerth. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio bod gennych gysylltiad rhyngrwyd sefydlog ac yn profi offer cyn i chi ddechrau i wneud yn siŵr bod ansawdd llun / sain yn addas. Mae'n hanfodol y gallwn eich gweld a'ch clywed yn glir trwy gydol y cyfweliad a’ch bod ar eich pen eich hun mewn amgylchedd addas.
Yn yr achos annhebygol y byddwch yn profi unrhyw broblemau technegol, dylech geisio gadael ac ail-ymuno â'r cyfarfod. Gall y panel drefnu i'ch cyfweliad gael ei aildrefnu i slot arall sydd ar gael, fodd bynnag, bydd angen i chi gywiro'r mater gan mai dim ond unwaith y gallwn aildrefnu. Os oes gennych broblemau technegol yn ystod eich cyfweliad, bydd y cyfweliad wedi'i aildrefnu OND yn cwmpasu elfennau a fethwyd yn y cyfweliad.
Os yw'ch cyfweliad wyneb yn wyneb, fe'ch cynghorir i fynychu'r lleoliad o leiaf 15 munud cyn amser eich cyfweliad a gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â'r ID a roddwyd gennych yn flaenorol.
Llên-ladrad
Rhaid i'r dystiolaeth rydych yn ei darparu ymwneud â'ch profiadau eich hun. Os canfyddir tystiolaeth o lên-ladrad, neu rannu cwestiynau, gwybodaeth neu atebion drwy gydol unrhyw ran o'r broses ddethol, bydd eich cais yn cael ei dynnu'n ôl. Gall enghreifftiau o lên-ladrad gynnwys:
- Cyflwyno gwaith, syniadau a phrofiad eraill fel eich un eich hun
- Copïo cynnwys neu atebion o ffynhonnell ar-lein neu gyhoeddedig nad yw'n eich hun
Mae'r un peth yn berthnasol i bob cam o'ch cais.
Rydym yn cydnabod y gall AI fod yn ddefnyddiol wrth wneud cais am y rôl hon, ond mae'n bwysig ei ddefnyddio yn y ffordd gywir. Artiffisial a recriwtio | Gyrfaoedd y Gwasanaeth Sifil i ddeall sut y gallwch wneud y defnydd gorau o GenAI tra'n sicrhau bod eich cais yn parhau i fod yn ddilys ac yn effeithiol.
Addasiadau Rhesymol
Os ydych angen addasiad rhesymol neu os oes gennych unrhyw broblemau technegol, gallwch gysylltu â Hwb Cwsmeriaid SSCL:
- Sgwrs Byw
- dwp-customer_hub@resourcing.soprasteria.co.uk
- 0345 241 5365